Dramâu''r Rhosys Cochion
- Format
- E-bog, ePub
Normalpris
Medlemspris
Beskrivelse
Yn ôl ysgolheigion ffeministaidd mae tystiolaeth bendant ynglyn â''r ffordd y mae cyfraniad menywod i ddrama, theatr a pherfformiad yn aml iawn yn cael ei hepgor, ei ''ysgrifennu allan'', ei osod ar yr ymylon yn ddiwylliannol a''i wneud yn anweledig. Ac mae''n ffaith nad oes fawr o astudiaeth o hanes y theatr yng Nghymru sydd naill ai''n cydnabod neu''n cynrychioli gwaith ysgrifennu menywod ar gyfer y theatr Gymraeg. Yn y cyd-destun hwn, mae''r gyfrol hon sydd yn ddilyniant i gyfrol arloesol Theatr Y Gymraes yn trafod gwaith Sera Moore Williams yn ymdrech i lenwi''r bylchau a chyfoethogi''r hanes trwy ddogfennu tair drama ysgrifenwyd a perfformiwyd gan Sharon Morgan i Rhosys Cochion. Yn anorfod ac yn anad dim mae''r testunau a''r cyddestun a roddir iddynt yn cyfeirio at y profiad diwylliannol o fod yn fenyw ac yn Gymraes, at hunaniaeth a''r estheteg fenywaidd sydd yn cydnabod y corff benywaidd fel gwraidd creadigrwydd.
Detaljer
- Udgivelsesdato26-10-2023
- ISBN139781912905508
- Forlag Honno Press
- FormatePub
Anmeldelser
Vær den første!