- Format
- Bog, hardback
- 76 sider
Normalpris
Medlemspris
- Du sparer kr. 30,00
- Fri fragt
-
Leveringstid: 7-12 Hverdage (Sendes fra fjernlager) Forventet levering: 10-03-2026
- Kan pakkes ind og sendes som gave
Beskrivelse
Cyfrol o farddoniaeth gyda darluniau gwreiddiol mewn lliw.
Tarddodd Cyswllt o angen siarad am bethau sy'n cael eu gwthio i ymylon bywyd cymdeithasol, o angen i chwilio am ddealltwriaeth ac i ymgynefino ? phwnc anabledd. Dyma lyfr sy'n bwriadu datgelu'r emosiynau a'r diymadferthwch y mae rhieni a gofalwyr plant gydag anableddau yn eu wynebu. Gw?wyd y cerddi o gariad ac anobaith, siom, bliner, a'r grym mewnol sy'n helpu rhywun cludo baich pob diwrnod. Un nod pwysig sydd iddynt: meithrin gobaith y gall pethau fod yn well os dyn ni'n dofi ofn arwahanrwydd.
Mae Jadwiga Graboś yn ysgrifennu cerddi, rhyddiaith a chaneuon. Ers 2019, mae wedi cyhoeddi tair chyfrol o farddoniaeth ac mae ei cherddi wedi ymddangos mewn blodeugerddi a chylchgronau llenyddol yng Ngwlad Pwyl, a chafodd rhai eu cyfieithu i Lithwaneg. Enillodd ei thrydedd gyfrol Cyswllt y brif wobr yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Llyfr Llenyddol Gwreiddiol Świdnica 2023. Graddiodd mewn Almaeneg a'r Gyfraith o Brifysgol Maria Curie-Sklodowska yn Lublin ac Astudiaethau Llenyddol a Chelfyddydol o'r Brifysgol Jagiellonaidd yng Nghracof. Mae hi'n byw yn Lublin ac yn gweithio yno fel athrawes ysgol uwchradd. Mae'n ymddiddori mewn theatr, ffilm, cerddoriaeth a chelfyddyd. Ar hyn o bryd, mae hi'n astudio paentio yn Academi Celfyddydau Cain Cracof. Mae ganddi bedwar o blant.
Mae Marta Listewnik yn ddarlithydd Cymraeg a llenyddiaeth Gymreig ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań. Mae wedi cyfieithu a chyhoeddi pedair nofel Gymraeg ym Mhwyleg ers 2017. Hwn, fodd bynnag, yw ei chyfieithiad cyhoeddedig cyntaf i'r Gymraeg.
Detaljer
- Sidetal76
- Udgivelsesdato14-04-2025
- ISBN139781917237444
- Forlag Melin Bapur
- FormatHardback
- Udgave0
Størrelse og vægt
10 cm
Anmeldelser
Vær den første!